Am y tro cyntaf erioed, bydd Digwyddiad Ffasiwn Araf yn cael ei gynnal yn Pontio, Bangor, ar Ebrill 12fed, pan fydd pobl yn gallu dysgu’r sgiliau i drwsio, addasu neu ail-fframio dillad sydd ganddyn nhw yn barod.
Bydd y digwyddiad a drefnir gan Menter Môn fel rhan o brosiect ‘Cylchol’ yn cael ei arwain gan Debra Drake, a gyrhaeddodd rownd derfynol The Great British Sewing Bee yn 2022, sy’n angerddol dros ffasiwn cynaliadwy. Bydd dwy arall o gyn-gystadleuwyr y Sewing Bee yn rhan o’r digwyddiad hefyd – sef Lauren Tedstone (2023) a Suzy Sankey (2024).
Yn ystod y dydd, bydd
- Gweithdai gwnïo a chrefftio
- Sesiwn ffeirio dillad Swopio nid Siopio
- Cyfle i drwsio dillad yn y caffi trwsio
- Cyfle i brynu yn y stondinau dillad cynaliadwy, vintage ac ail-law
- Cyfle i wylio sioe ffasiwn o’r gwaith sydd wedi ei greu yn y gweithdai cymunedol
- Cyfle i ddysgu mwy am ffasiwn araf mewn sesiwn holi ac ateb gyda chyn-gystadleuwyr y Sewing Bee
Tra bydd ffi fechan am y gweithdai, mae’r holl weithgareddau eraill am ddim, diolch i Gyngor Gwynedd sy’n ariannu prosiect Cylchol Menter Môn, sef menter economi gylchol.
Rhannodd Debra Drake ei chyffro am y digwyddiad, gan ddweud, “Rwyf wrth fy modd o fod yn rhan o’r digwyddiad yma – y cyntaf o’i fath yng Ngogledd Cymru. Mae ffasiwn heddiw yn symud ar gyflymder anhygoel, ond mae hwn yn gyfle i bob un ohonom arafu, dysgu sgiliau newydd, a gwneud y gorau o’r hyn sydd gennym yn barod.
“Boed hynny trwy drwsio, uwchgylchu, neu beidio brysio i brynu, gallwn ni i gyd chwarae rhan mewn creu dyfodol mwy cynaliadwy.”
Tynnodd sylw hefyd at yr amrywiaeth o weithdai oedd ar gael ar y diwrnod, gan ychwanegu “Mae’r gweithdai a gynigir yn amrywio o ddysgu sut i frodio ar ddillad i greu edafedd allan o hen grysau-t. Mae rhai o’r gweithdai hefyd yn addas ar gyfer plant dros 8 oed, sy’n ei wneud yn ddigwyddiad gwirioneddol aml-genhedlaeth.
Mae Debra hefyd wedi bod yn cynnal gweithdai cymunedol fel rhan o gynllun Cylchol / Llai dros y misoedd diwethaf, gan weithio gyda phobl ifanc yn Gisda i uwchgylchu crysau chwys a dysgu sgiliau gwnïo sylfaenol iddynt. Bydd eu creadigaethau yn cael eu harddangos ar y catwalk yn ystod y digwyddiad.
Ychwanegodd, “Rwyf wedi mwynhau gweithio gyda’r bobl ifanc yn Gisda gymaint, a bydd yn anhygoel gweld eu dillad wedi’u huwchgylchu yn y sioe ffasiwn.”
“Dyw digwyddiadau fel hyn ddim yn digwydd yn aml yng Ngogledd Cymru, felly dewch draw am ddiwrnod hamddenol ac ysbrydoledig o ddysgu a bod yn greadigol.”
Ychwanegodd Elen Parry o Gylchol, Menter Môn, “Rydym yn gyffrous i gynnal diwrnod o hwyl i’r teulu cyfan ym Mangor fel rhan o’r prosiect Cylchol.
“Gyda chefnogaeth Llai, rydym yn cynnal ymgyrch ffasiwn araf i annog pobl i ailfeddwl cyn taflu eitemau y gellid eu trwsio neu eu cyfnewid.
“Trwy ein gofodau Ffiws, rydym hefyd yn cynnal gweithdai ar draws cymunedau Gwynedd ac Ynys Môn i gadw’r sgwrs hon i fynd ac ysbrydoli pobl i ddewis ffasiwn mwy cynaliadwy.”