Bydd cymunedau Ynys Môn ar eu hennill yn dilyn llwyddiant menter gymdeithasol i ddenu arian sylweddol o Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU a’r Awdurdod Datgomisynu Niwclear (NDA).
Mae cadarnhau’r cyllid, yn golygu y gall Menter Môn, barhau â’i genhadaeth i wneud gwahaniaeth i gymunedau’r ynys gyda phwyslais yn benodol o dan yn cynllun hwn ar brosiectau iaith a diwylliant; cymunedau oed gyfeillgar; cymunedau carbon isel; amgylchedd a bioamrywiaeth. Nod Cronfa Gyffredin y DU yw meithrin balchder mewn ardal a chynyddu cyfleoedd bywyd i bobol – a dyma fydd nod Menter Môn mewn partneriaeth gyda Cyngor Sir Ynys Môn, wrth sicrhau bod yr arian hwn yn cael effaith gadarnhaol ar draws yr ynys.
Wrth groesawu’r arian, dywedodd Dafydd Gruffydd, Rheolwr Gyfarwyddwr Menter Môn: “Mae hwn yn newyddion da iawn i ni fel sefydliad ac i Ynys Môn. Ers dros 25 mlynedd mae Menter Môn wedi arwain ar brosiectau sydd wedi dod a budd economaidd, amgylcheddol a diwylliannol i gymunedau’r ynys. Heb os bydd yr arian hwn yn caniatáu i ni barhau i wneud hyn, tra hefyd yn grymuso cymunedau i weithredu drostynt eu hunain ac i wneud yn fawr o’u cryfderau a’r hyn sydd yn eu gwneud nhw’n unigryw.
“Gyda heriau cynyddol a phwysau ariannol yn wynebu pawb ym mhob rhan o gymdeithas, mae derbyn yr arian yma yn arwyddocaol iawn. Bydd y gwaith o sicrhau bod y gefnogaeth yn cyrraedd y llefydd cywir ac yn gwneud gwahaniaeth yn cychwyn rŵan. Byddwn yn cyhoeddi sut all cymunedau fanteisio ar yr cynllun cyn bo hir, felly gofynnwn i bobl gadw llygad ar ein gwefan a’n cyfryngau cymdeithasol am fwy o fanylion.”
Gyda £1.6 miliwn o Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU a chefnogaeth yr NDA mae Menter Môn yn barod i hyrwyddo ei nod o rymuso cymunedau Môn. Gyda phwyslais o’r newydd ar iaith, diwylliant a chynaladwyedd, mae’r arian yn atgyfnerthu’r ymrwymiad i greu cymunedau llewyrchus.