Mae Canolfan Cwm Idwal yn ganolbwynt pwysig i ymwelwyr ers blynyddoedd lawer. Ar un adeg yn fan lle nad oedd Wi-Fi na signal ffôn symudol, mae ganddo bellach fynediad at fand eang cyflym iawn, yn ogystal â rhwydwaith LoRaWAN gyda synwyryddion Rhyngrwyd y Pethau.

 

 

Mae Menter Môn wedi gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Gwynedd a Phartneriaeth Cwm Idwal, sy’n cynnwys Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, Cyfoeth Naturiol Cymru ac Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru, i gysylltu’r ganolfan ymwelwyr a’r tai a busnesau ar hyd y cwm gwledig hwn gyda band eang cyflym iawn. Maent hefyd wedi sefydlu rhwydwaith LoRaWAN, a fydd yn caniatáu i synwyryddion Rhyngrwyd y Pethau fonitro ansawdd aer, lleithder, tymheredd a llawer mwy yn y cwm. Mae’r prosiect wedi ei gefnogi gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig: Ewrop yn Buddsoddi mewn Ardaloedd Gwledig.

 

Bydd ymwelwyr yn gallu mewngofnodi ar y Wi-Fi yn rhad ac am ddim, a bydd yn caniatáu iddynt gael mynediad at wybodaeth ddefnyddiol, cadw mewn cysylltiad trwy anfon negeseuon a gwneud galwadau, ac wrth gwrs rhannu harddwch yr ardal ar gyfryngau cymdeithasol! Mae cynlluniau hefyd i ychwanegu codau QR o amgylch y ganolfan er mwyn rhannu mwy o wybodaeth, ac ni fyddai hyn yn bosibl heb y Wi-Fi.

 

Mae cyfoeth o wybodaeth ar gael am yr ardal ar wefan arbennig a grëwyd gan Bartneriaeth Cwm Idwal, a fydd bellach ar gael yn hawdd wrth ymweld. Mae’n cynnwys gwybodaeth am y bywyd gwyllt sydd i’w gael yno, hanes yr ardal, yr ecosystemau pwysig a geir yno a llawer mwy. Mae myfyrwyr o ysgolion a phrifysgolion o bob rhan o’r wlad yn ymweld â Chwm Idwal i ddysgu, a bydd y Wi-Fi rhad ac am ddim yn gymorth gwych i’w haddysg.

 

Mae’r Wi-Fi hefyd wedi gwneud gwahaniaeth mawr i fusnesau yn yr ardal. Mae hostel YHA Bwthyn Idwal wedi’i leoli gerllaw ac mae gwesteion bellach yn gallu cadw mewn cysylltiad â theulu a ffrindiau yn ystod eu harhosiad. Gallant hefyd ymchwilio i bethau i’w gwneud yn yr ardal leol megis dod o hyd i leoedd i fwyta neu chwilio am lwybrau ar y mynyddoedd.

 

Er bod y Wi-Fi wedi helpu i gysylltu pobl, bydd y band eang cyflym iawn hefyd yn caniatáu i ddyfeisiau gael eu cysylltu. Mae Menter Môn wedi gosod porth LoRaWAN yng Nghanolfan Cwm Idwal a fydd yn caniatáu gosod synwyryddion ‘Rhyngrwyd y Pethau’ o amgylch y safle. Gall y synwyryddion hyn fonitro llawer o bethau gwahanol fel tymheredd, lleithder a hyd yn oed os yw bin yn llawn!

 

Mae synwyryddion tymheredd newydd eisoes wedi’u gosod ar glogwyni uchel Cwm Idwal. Bydd y rhain yn helpu i amddiffyn planhigion prin y Warchodfa Natur Genedlaethol rhag difrod yn ystod misoedd y gaeaf. Pan fydd y tymheredd yn disgyn a’r eira yn dechrau pentyrru ar fynyddoedd Eryri, mae llawer o fynyddwyr yn edrych ymlaen at allu dringo iâ. Fodd bynnag, er gwaethaf yr eira, yn aml nid yw’r ddaear oddi tano wedi rhewi – a gall defnyddio bwyelli iâ a chramponau ar laswellt sydd heb ei rewi niweidio’n ddifrifol y rhywogaethau planhigion prin sy’n byw yno. Mae synwyryddion a osodir ar uchder uchel yn y cwm yn cofnodi tymheredd yr aer a’r ddaear ar wahanol ddyfnderoedd a throsglwyddir y wybodaeth hon i lawr gan ddefnyddio porth LoRaWAN i Ganolfan Cwm Idwal. Yna gellir cyfleu’r wybodaeth hon i ddringwyr gan ganiatáu iddynt wneud penderfyniadau gwybodus wrth farnu a yw’r amodau’n briodol cyn iddynt ddechrau eu taith.

 

Dywedodd Dafydd Gruffydd, Rheolwr Gyfarwyddwr Menter Môn,

 

“Rydym yn falch iawn bod Menter Môn wedi gallu helpu Partneriaeth Cwm Idwal i osod band eang cyflym iawn mewn ardal mor wledig â Chanolfan Cwm Idwal. Nid yn unig y mae’r Wi-Fi yn caniatáu i bobl gysylltu, mae rhwydwaith LoRaWAN yn caniatáu i ddyfeisiau gysylltu hefyd. Mae gan Menter Môn hanes llwyddiannus iawn gyda gosod rhwydweithiau Wi-Fi a LoRaWAN cymunedol ar y Stryd Fawr ar draws Cymru, gyda synwyryddion yn cael eu gosod ar draws trefi i fesur bob mathau o bethau e.e. biniau a lleoedd parcio. Ni allwn aros i weld beth mae Canolfan Cwm Idwal yn ei wneud nesaf gyda’r dechnoleg gyffrous hon.”

 

Dywedodd Rhys Wheldon-Roberts, Swyddog Partneriaeth Cwm Idwal:

 

“Mae Cwm Idwal yn gartref i rai o rywogaethau planhigion prinnaf Cymru, gan gynnwys rhywogaethau Arctig-Alpaidd fel Lili’r Wyddfa a’r Tormaen cyferbyn ddail, ond mae hefyd yn denu miloedd o ymwelwyr sy’n mwynhau’r ardal ar gyfer hamdden. Mae cael porth LoRaWAN yng Nghanolfan Cwm Idwal wedi ein galluogi i uwchraddio’r offer a ddefnyddir i fesur y tymheredd ar glogwyni uchel Cwm Idwal, gan wneud y data’n fwy dibynadwy. Bydd hyn yn ein helpu i warchod y planhigion prin sydd gennym yma ond hefyd yn helpu’r dringwyr i gael diwrnod gwell ar y mynydd.”

 

Dywedodd Molly Lovatt, Uwch Swyddog Mynediad, Hamdden a Phartneriaethau Cyfoeth Naturiol Cymru,

 

“Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn hapus i gyfrannu at y prosiect hwn gydag Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, Cyngor Gwynedd a Menter Môn oherwydd ei fod yn help mawr i’r bobl sy’n ymweld â’r ardal. Mae llawer o wybodaeth ar wefan Cwm Idwal, a gall ymwelwyr nawr gysylltu ag ef i gael mynediad at yr holl wybodaeth sydd yno. Mae hyn yn golygu bod popeth ar gael yn hawdd i ymwelwyr a myfyrwyr pan fyddant yma. Rydym yn cael llawer o ysgolion a phrifysgolion yn ymweld ac mae llawer ar y wefan y gallant gysylltu â hi. Dim ond hyn a hyn o wybodaeth gallwch ddarparu ar sgrin neu ar banel wal. Mae cael mynediad i’r rhyngrwyd yng Nghanolfan Cwm Idwal yn bwysig iawn.”

 

Dywedodd Adam Daniel, Pennaeth Gwasanaeth Wardeniaid Parc Cenedlaethol Eryri,

 

“Mae gennym ni swyddfa yng Nghanolfan Cwm Idwal ar gyfer staff, ond tan yn ddiweddar roedd rhaid iddyn nhw weithio o adra rhan amlaf oherwydd y cyflymder rhyngrwyd araf iawn oedd ar gael drwy’r hen system lloeren. Roedd yr hen gysylltiad yn aml ddim yn gweithio ac roedd yn cyfyngu ar faint o waith y gallai’r bartneriaeth ei wneud yma. Roedd hefyd yn effeithio ar allu’r busnes a leolir yn y ciosg yn y ganolfan i weithredu. Nawr bod gennym gysylltiad gwell a dibynadwy, mae wedi galluogi staff i ddod yma i weithio. Mae’r swyddfa fel adnodd yn amlwg wedi cynyddu ei werth.”

 

Dywedodd Jeroen Paul Verbeek, Rheolwr YHA Bwthyn Idwal,

 

“Ers i’r band eang cyflym iawn gael ei osod yng Nghanolfan Cwm Idwal mae fy nghwsmeriaid wedi gallu mynd ar-lein. Mae’r galw’r dyddiau hyn yn fawr iawn am Wi-Fi, a gallwn o’r diwedd gynnig y gwasanaeth hwn i’n gwesteion. Gallant edrych i fyny llwybrau ar gyfer y mynyddoedd, chwilio am leoedd i fwyta gerllaw neu weld yr amserlenni bysiau, popeth na allent ei wneud o’r blaen. Gallant hefyd ei ddefnyddio i ffonio adref, peth syml ond nid oedd yn bosibl o’r blaen oherwydd nid oes signal ffôn symudol yma.”


Dysgwch fwy am yr hyn rydyn ni’n ei wneud...



01248 725 700

Menter Môn Cyf, Neuadd Y Dref Llangefni, Sgwar Bulkeley, Llangefni, Ynys Môn LL77 7LR

Menter Môn Cyf, 144 Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd LL49 9NU

Rhif Cwmni: 3160233