Mae Trefi Smart Cymru, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a BT yn falch o gyhoeddi’r gynhadledd Trefi Smart gyntaf.

Bydd y digwyddiad, sy’n cael ei gynnal yn Tŷ Pawb, yn nodi carreg filltir bwysig wrth i Cymru i fabwysiadau technoleg a datrysiadau newydd yn seiliedig ar ddata i adfywio ei threfi a’i chymunedau.

Ers ei sefydlu yn 2021, mae’r fenter, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a’i weithredu gan Menter Môn, wedi hyrwyddo’r defnydd o dechnoleg a data i ailfywiogi’r stryd fawr mewn trefi ledled y wlad.

Dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James: “Mae’r rhaglen Trefi Smart yn annog ac yn cefnogi awdurdodau lleol, busnesau a sefydliadau cymunedol i ddefnyddio pŵer technoleg a data i wella ffyniant a’r ffordd mae  trefi a chanol dinasoedd yn cael eu rhedeg, fel rhan o’n fframwaith Trawsnewid Trefi.

“Mae Wrecsam yn enghraifft wych o sut y gall awdurdodau lleol ddefnyddio’r rhaglen i fuddsoddi mewn technolegau digidol a datblygu seilwaith er budd y bobl sy’n byw, gweithio ac yn ymweld â’n trefi a’n dinasoedd.

“Rydym wedi ymestyn y rhaglen ac yn buddsoddi mwy na £600k dros ddwy flynedd i helpu i gefnogi busnesau, cynghorau a chymunedau i adfywio canol trefi a dinasoedd.

“Rwy’n edrych ymlaen at weld sut mae ein partneriaid canol tref yn defnyddio’r cyllid hwn i ddatblygu a gwella ffyniant eu trefi yn y dyfodol.”

Mae’r gynhadledd yn addo cyfle i rannu syniadau newydd gyda araith gan  brif siaradwyr, arddangosfa, a thrafodaethau gan hyrwyddwyr digidol ac arweinwyr diwydiant. Bydd mynychwyr yn cael cipolwg ar y prosiectau arloesol sy’n siapio tirwedd drefol Cymru ac yn darganfod sut gall technoleg sicrhau newid cadarnhaol ar lefel leol.

Mae’r gynhadledd hefyd yn rhoi cyfle i Wrecsam arddangos ei seilwaith digidol a sefydlu ei hun fel dinas smart cyntaf gogledd Cymru.

Dywedodd y Cynghorydd Nigel Williams, Aelod Arweiniol Economi Cyngor Wrecsam: “Rydym wrth ein bodd bod Menter Môn a BT wedi dewis cynnal y digwyddiad gwych hwn yn Wrecsam, ac rydym yn edrych ymlaen at groesawu cynghorau, arbenigwyr technoleg a swyddogion y Llywodraeth eraill ar y 15 o Fawrth.

“Mae Wrecsam wedi cael ei ddewis i ddangos y cynnydd yn ystod ein datblygiad i fod yn Ddinas Smart. Yn ystod y flwyddyn a hanner diwethaf, mae wedi sefydlu’r seilwaith i gefnogi amrywiaeth eang o synwyryddion i ddeall ymddygiad yng nghanol y ddinas, yn ogystal â defnydd o dechnoleg ddigidol i hyrwyddo digwyddiadau a busnes yn y ddinas.

“Mae cynnal y digwyddiad yn Wrecsam yn gyfle gwych i arddango­s yr hyn sy’n bosib pan fydd awdurdodau lleol yn dechrau datblygu ecosystemau IoT (y rhyngrwyd pethau) – gan ddefnyddio data a thechnoleg i helpu rheoli canol dinasoedd yn effeithiol.”­

Bydd mynychwyr y digwyddiad yn clywed gan bobl ddylanwadol gan gynnwys Glyn Jones, Prif Swyddog Digidol Llywodraeth Cymru, a Lisa Perkins, Cyfarwyddwr Parc Adastral BT, a fydd yn gosod y dôn am ddiwrnod o gydweithio. Bydd trafodaeth banel hefyd a chyfle i ddilyn taith Smart Wrecsam o’r cychwyn i’w gweithredu.

Mae modd cofrestru ar Eventbrite: https://www.eventbrite.co.uk/e/cynhadledd-trefi-smart-towns-conference-wrexham-tickets-780673023027

 

Image ©Licensed to Parsons Media. 17/10/2023. Newport , United Kingdom. Wales Tech Week- Day Two. Wales Tech Week at the International Convention Centre Wales. Picture by Andrew Parsons / Michael Hall Photography

Image ©Licensed to Parsons Media. 17/10/2023. Newport , United Kingdom. Wales Tech Week- Day Two. Wales Tech Week at the International Convention Centre Wales. Picture by Andrew Parsons / Michael Hall Photography

 


Dysgwch fwy am yr hyn rydyn ni’n ei wneud...



01248 725 700

Menter Môn Cyf, Neuadd Y Dref Llangefni, Sgwar Bulkeley, Llangefni, Ynys Môn LL77 7LR

Menter Môn Cyf, 144 Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd LL49 9NU

Rhif Cwmni: 3160233