Mae Menter Môn yn gweithio mewn cyweithrediad â Chyngor Sir Ynys Môn a Llywodraeth Cymru i ddatblygu Ynys Môn i fod yn Ynys SMART.

Nod y prosiect yw darparu Wi-Fi cyhoeddus ynghyd â thechnoleg SMART ar draws yr Ynys. Math o dechnoleg sy’n gyfrifol am fonitro, dadansoddi ac adrodd yn ôl ar weithgareddau ardaloedd ydi technoleg SMART.

Bydd y datblygiad yma yn ffordd o gynorthwyo adferiad y stryd fawr wedi’r pandemig yn ogystal â sicrhau bod cysylltiad gwell ar gael o fewn ardaloedd gwledig.

Gall busnesau a sefydliadau gasglu gwybodaeth defnyddiol am arferion ymwelwyr gan ddefnyddio’r data fel sail wrth ystyried gwahanol ffactorau a chynnal digwyddiadau posib ar gyfer denu cwsmeriaid i aros yn hirach unai yng nghanol y dref neu mewn lleoliadau arfordirol.

Nododd y Cynghorydd Carwyn Jones: “Bydd mynediad at ddata gwerthfawr yn darparu mewnwelediad ar gyfer dadansoddi llwyddiant prosiectau cymunedol. Bydd modd mesur llwyddiant gan asesu yr effaith mae’r penderfyniadau yn eu cael ar y niferoedd o ymwelwyr a’r cyfnod o amser y maent yn ei dreulio yn y lleoliadau.”

Ers Ebrill 2020, mae gwasanaeth Wi-fi am ddim wedi ei osod yn Llangefni. Wrth ddarparu system Wi-fi am ddim mae hi wedi bod yn bosib i’r dref ddefnyddio meddalwedd casglu data Patrwm.io er mwyn adnabod arferion y dref.

Wrth adnabod y manteision o ddefnyddio’r system bydd y cynllun yn gweithio gyda gwahanol drefi yn ogystal âc ardaloedd ar yr arfordir fel Traeth Bychan a Phorth Amlwch. Bydd y gwasanaeth yn yr ardaloedd arfordirol yn galluogi gwell cyfathrebu rhwng pysgotwyr, defnyddwyr y porthladdoedd yn ogystal â’r cymunedau arfordirol.

Dywedodd Tomos Jones, Rheolwr Prosiect Arloesedd ym Menter Môn: “Rydym ni’n falch o’r cyfle i gydweithio gyda Chyngor Sir Ynys Môn i alluogi’r Ynys i wneud penderfyniadau yn seiliedig ar ddata. Mae’r cynllun Ynys SMART hefyd yn darparu mewnwelediad gwerthfawr i’r busnesau sy’n masnachu ar strydoedd mawr Môn”.

Caiff y prosiect ei gyllido yn bennaf gan Gronfa Datblygu Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru ac fe lenwir unrhyw fylchau cyllid gan Lywodraeth Cymru drwy raglen Arfor Cyngor Môn. Mae’r gwasanaeth Wi-fi yn yr ardaloedd arfordirol yn cael ei gyllido gan Lywodraeth Cymru, trwy’r cynllun FLAG.

Mae’r fenter Ynys SMART yn cydymffurfio a phrosiect Blwyddyn y Trefi SMART, sy’n cael ei redeg gan Menter Môn a’i ariannu gan Lywodraeth Cymru ar gyfer cefnogi’r Rhaglen Trawsnewid Trefi.

Os hoffech rhagor o wybodaeth am y prosiectau cysylltwch a: elenf@mentermon.com neu ffoniwch 07376431446.


Dysgwch fwy am yr hyn rydyn ni’n ei wneud...



01248 725 700

Menter Môn Cyf, Neuadd Y Dref Llangefni, Sgwar Bulkeley, Llangefni, Ynys Môn LL77 7LR

Menter Môn Cyf, 144 Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd LL49 9NU

Rhif Cwmni: 3160233