Ynni
Dewch i wybod mwy am sut mae prosiectau ynni adnewyddadwy Menter Môn yn cyd-fynd â’n hymdrechion cadwraeth amgylcheddol, gan gyfrannu at warchod y blaned a’r frwydr yn erbyn newid hinsawdd. Rydym yn gweithio ar greu ynni glân, hybu’r economi leol a rhanbarthol, darparu cyfleoedd i bobl ifanc a manteision i gymunedau.
Trosolwg
Mae ein prosiectau ynni adnewyddadwy yn ategu’r gwaith cadwraeth ac amgylcheddol y mae Menter Môn yn ei wneud i warchod y blaned a mynd i’r afael â newid hinsawdd. Gweithio ar greu ynni glân, hybu’r economi leol a rhanbarthol, darparu cyfleoedd i bobl ifanc a manteision i gymunedau. Mae Menter Môn wedi adnabod potensial mawr ar gyfer ynni adnewyddadwy ar Ynys Môn ac yn gyfrifol am brosiectau ynni gwyrdd arloesol gan gynnwys Hwb Hydrogen Caergybi, MCRP a Morlais.
Gwybodaeth
Meysydd Gwaith
Hwb Hydrogen Caergybi: Gall defnyddio ynni adnewyddadwy cynradd i gynhyrchu hydrogen trwy electrolysis, gynnig opsiwn amgen i gysylltu efo’r grid trydan a all fod yn gyfyngedig. Gall yr “hydrogen gwyrdd” yma ryddhau potensial llawn ynni adnewyddadwy. Yn gynyddol mae mwy yn adnabod rôl unigryw hydrogen yn y trosglwyddiad tuag at ddatgarboneiddio ar draws pob sector; ac mewn lleihau llygredd aer. Gall hyn arwain at greu miloedd o swyddi ar draws Cymru a nifer o’r rheini ar Ynys Môn. Darllen ymlaen
Morlais: Prosiect ynni llif llanw Menter Môn ydy Morlais. Mae’n rheoli ardal 35Km² o wely’r môr ger Ynys Cybi, Ynys Môn. Mae gan y cynllun y potensial i gynhyrchu hyd at 240MW o drydan glân carbon isel. Ewch i wefan Morlais am fwy o wybodaeth. Gwefan Morlais
Prosiect Ymchwil Nodweddion Morol: Mae Prosiect Ymchwil i Nodweddion Morol Menter Môn yn brosiect ymchwil a datblygu arloesol wedi ei gynllunio i sicrhau bod prosiect ynni llif llanw Morlais yn cael ei weithredu yn ddiogel. Mae Parth Arddangos Morlais yn ardal 35km2 oddi ar Ynys Cybi, Ynys Môn sy’n cael ei ddatblygu gan Menter Môn. Darllen ymlaen
Fel darparwr mawr o ynni adnewyddadwy, mae Ynys Môn yn arwain y ffordd yn y chwyldro gwyrdd, gan fyw i fyny i’n henw – Môn Mam Cymru. Darganfyddwch amrywiaeth o brosiectau ynni arloesol ar Ynys Môn, sut bydd yr ynys yn elwa, a beth mae’n ei olygu i’ch cymuned. Mae’r wefan isod yn cynnig cyfle unigryw i ddysgu am y datblygiadau sy’n siapio ein dyfodol a’n hymrwymiad i ddatrysiadau ynni cynaliadwy. https://ynniarynysmon.cymru/