Os yn dymuno derbyn gwybodaeth bellach neu am sgwrs anffurfiol parthed unrhyw un o’r swyddi canlynol sy’n cael eu hysbysebu cysylltwch â’r dderbynfa ar 01248 725700 / AD-HR@mentermon.com
Swyddi
Peiriannydd Cynorthwyol (Trydanol)
Lleoliad: Prif swyddfa - Llangefni / Is-orsafoedd - Caergybi / Gweithio o gartref ar adegau (gweithio hybrid) Dyddiad Cau: 28/02/2025
Diben y Rôl: Darparu peirianneg drydanol a chymorth prosiect i sicrhau bod prosiectau ynni yn cael eu cyflawni’n llwyddiannus. Cyflawni gofynion O&M y cyfnod gweithredol a chysylltu â Generaduron Llanw yn ystod eu cyfnod adeiladu a gweithredu.
Cyflog : £30,651 – £36,222
Pensiwn : Aelodaeth yng Nghynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
Cyfweliadau: Rhagwelir cynnal cyfweliadau yn ystod wythnos yn cychwyn 10/03/2025
Cyswllt am ragor o wybodaeth: Gareth Roberts, Arweinydd Gweithrediadau Morlais, rhif:07485 920 352, ebost: GarethRoberts@mentermon.com
Dychwelyd ffurflen gais i AD-HR@mentermon.com erbyn 18:00 dydd Gwener, 28 Chwefror.